Home > The Society > Cist y Ceinciau
Cist y Ceinciau
Bwriad yr adran hon yw hwyluso gwaith unrhyw un sy’n chwilio am gainc addas. Gan fod dros 700 o wahanol geinciau ar gael bellach, rhanwyd y rhestr yn wahanol adrannau:
Y Rhestr Gyflawn o geinciau, yn nhrefn yr wyddor, gan nodi pwy yw cyfansoddwr y gainc, amseriad y gainc, sawl bar sydd ym mhob pen, a faint o benillion y gellir eu gosod ar un cylch cyfan.
Ceinciau amseriad 2/4 - wedi eu trefnu yn ôl nifer y barrau ym mhob pen
Ceinciau amseriad 4/4 - wedi eu trefnu yn ôl nifer y barrau ym mhob pen
Ceinciau amseriad 3/4 - wedi eu trefnu yn ôl nifer y barrau ym mhob pen
Ceinciau amseriad 5/4 ac eraill - wedi eu trefnu yn ôl nifer y barrau ym mhob pen
Sylwer fod y rhestrau wedi eu diweddaru i gynnwys pob cainc a gyhoeddwyd hyd at Chwefror 2020.
Ymddangosodd rhai ceinciau fwy nag unwaith mewn gwahanol gyhoeddiadau ac fe nodir y manylion hynny yn llawn, er hwylustod.
Cydnabyddir yn ddiolchgar gyfraniadau allweddol Menai Williams a’r ddiweddar Haf Morris wrth lunio’r rhestrau hyn.