Home > Cerdd Dant Festival > Llŷn ac Eifionydd 2016

Llŷn ac Eifionydd 2016


Translation coming soon...

Plas Heli, Pwllheli

Tachwedd 12fed 2016


Llywydd y Prynhwan: Nan Elis
Llywydd yr hwyr: Bryn Terfel
Llywyddion Anrhydeddus: Osian Ellis, Madge Hughes, D. G.Jones (Selyf), Buddug Lloyd Roberts

Arweinyddion: Dilwyn Morgan, Bethan Jones Parry, Rhian Parry a Nia Williams (Nia Plas)

Cadeirydd: Ken Hughes
Is-Gadeirydd: Dafydd Rhun
Trysorydd: Gwyn Jones
Ysgrifennyddion: Gwyn a Rhian Parry Williams, Rhoseithin, Chwilog

Rhestr Testunau

Rhestr Testunau Gŵyl Cerdd Dant Llŷn ac Eifionydd 2016

Cywydd Croeso


Ymhell o dir, mae hiraeth
erioed am delyn o draeth
ac wedi hwrdd, tabwrdd ton,
be’n well na’r hen benillion?
 O, am gei, wrth i’r storm gau;
yn y gêl, ble mae'n golau?

 

Trai gwael yn troi o Gilan
yr hen gwch yn brin o gân
 a’r awydd sydd yn y swèl
yw mynd tua’r man tawel,
llywio’n hwyliau’n llawn heli
i afon Erch a’i hafan hi. 

Glan-don, ac mi glywn dannau
a gŵyl fawr ac ailfywhau
naws y môr a’i siantis mêl;
o’r tŷ gro, teg yw’r awel
a’r iaith mor dew â’r ewyn
yno’n llond calonnau Llŷn.

Mae inni wlad fel maneg:
Eifionydd y tywydd teg
a Llŷn y moryn llonydd wedi’r Swnt.
Dod adra sydd wrth alw’n y porth heli,
i hel nerth i’n hwyliau ni.

Myrddin ap Dafydd