Home > Cwrs Gosod a Chyfeilio a Llogi Telynau > Cwrs Gosod a Chyfeilio
Cwrs Gosod a Chyfeilio
(Translation coming soon...)
Mae’r Gymdeithas yn cynnal Cwrs Gosod a Chyfeilio Cerdd Dant yn flynyddol. Yn ogystal â hyn, darperir canllawiau ar gyfer gosod darnau’r Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Wyl Cerdd Dant yn Allwedd y Tannau yn flynyddol – un o lawer o eitemau difyr a defnyddiol yn yr Allwedd!
Noder hefyd fod y Gymdeithas yn fodlon ystyried ceisiadau gan griw neu gymuned sy'n awyddus i gynnal cyfres o weithdai gosod yn eu hardaloedd eu hunain. Byddai'r Gymdeithas yn fodlon talu am gostau tiwtor i redeg y gweithdai a chostau llogi adeilad/ystafell addas i gynnal y gweithdai. Byddai'n rhaid i un person gymryd cyfrifoldeb am drefnu a chydlynu a hyrwyddo yn lleol.
Cynhelir y Cwrs Gosod ar benwythnos ym mis Medi bob blwyddyn, mewn gwesty yng nghanolbarth Cymru. Mae’r cwrs yn ymestyn o nos Wener hyd at amser cinio dydd Sul, ac mae’r pris yn cynnwys prydau bwyd a gwely am ddwy noson yn y Gwesty ei hun.
Anelir y cwrs at unrhyw un sy’n dymuno cael hyfforddiant yn y grefft o osod cerdd dant. Mae croeso i bob oedran! Gellir mynychu rhan o’r cwrs yn unig os dymunir, ac mae croeso i’r rhai sydd wedi dilyn y cwrs o’r blaen.
Rhennir y cwrs yn ddosbarthiadau fel a ganlyn:
- Dosbarth dechreuwyr
- Rhai gyda pheth profiad ond angen mwy o wybodaeth ac ymarfer
- Dosbarth Cyfeilio
Yn ychwanegol at yr hyfforddiant ymarferol gan arbenigwyr yn y maes, mae’r penwythnos hefyd yn cynnwys sgyrsiau gan bobl amlwg yn y byd cerdd dant, digon o gyfle i drin a thrafod, a digon o amser i gymdeithasu!
Os oes gennych ddiddordeb neu am fwy o fanylion, cysylltwch â’r Swyddog Gweinyddol.