Home > Cerdd Dant Festival > Blaenau Ffestiniog a'r Fro 2018

Blaenau Ffestiniog a'r Fro 2018


Ysgol Y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog

10fed o Dachwedd 2018

Rhestr Testunau

Rhestr Testunau Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a'r Fro 2018


Llywydd y Dydd: Arwel Gruffydd

Llywyddion Anrhydeddus: Eirlys a Shôn Dwyryd, Einir Wyn Jones, Wenna Francis Jones, Mona Meirion, Buddug Lloyd Roberts

Arweinyddion: Delyth Gray, Elliw Mai, Dilwyn Morgan

Swyddogion y Pwyllgor Gwaith

Cadeirydd: Iwan Morgan
Is-Gadeirydd: Gwyn Roberts
Trysorydd: Anthony Evans
Ysgrifennydd: Bethan Haf Jones
Trefnydd yr Ŵyl: John Eifion

Cywydd Croeso


Yn wresog rhoddwn groeso
Yma i’r Ŵyl a geir ym mro
Gwythïen y lechen las,
A heddiw, mae mor addas
Datgan i ‘swyn y tannau’
Angerdd cerdd i’n bywiocáu.

I sain cordiau tannau tyn
Doi aelwyd ‘Llys y Delyn’
Yn fan trafod gosodiad,
A rhoddi i glws gerddi gwlad
Liaws o gyfalawon –
Rhai yn lleddf a rhai yn llon.

O rwbel ei chwareli Do,
Yn nyddiau heth, cododd hi
Lenorion, cerddorion ddaeth
Yn gewri drwy ragoriaeth;
Diwylliant diwydiant oedd
Yn rhodio hyd ei strydoedd.

Do, heb os, daeth newid byd
I faeddu sawl celfyddyd,
Er y Gymraeg yma rydd
Lifeiriant i leferydd
Ei chymdogol drigolion –
Un dre’ o fil yw’r dref hon!

Iwan Morgan