Home > Cerdd Dant Festival > Bro Nansi 2022

Bro Nansi 2022


Translation coming soon...

Theatr Llwyn, Ysgol Llanfyllin 

Tachwedd 12fed, 2022


Llywydd y Dydd: Huw Jones

Llywyddion Anrhydeddus: Arfon Gwilym, Dwynwen Jones

Arweinyddion: Dai Evans, David Oliver, Dei Tomos

Swyddogion y Pwyllgor Gwaith

Cadeirydd: Alun Jones

Is-Gadeirydd: Bryn Peryddon Davies

Trysorydd: Goronwy Jones

Ysgrifennydd: Rhian Davies

Rhestr Testunau

Rhestr Testunau Gŵyl Cerdd Dant Bro Nansi 2022

Cywydd Croeso


Bro hynod a phob rhinwedd
Sy’n drwch o harddwch a hedd,
Gweddus i’n roi gwahoddiad  
I wledd yng nghalon Cefn Gwlad,
A chewch Ŵyl a’ch llonna chwi
O ansawdd blesiai Nansi.  

Crisial yw geiriau’n croeso
I bawb pwy bynnag y bo,
Mynnu denu mae doniau
I’r fan hon, i wir fwynhau
Dawns a chân, dyneswch chwi
Hynny rydd hyder inni.

Taer y llais a Theatr Llwyn
A’i haeddfed gwmni addfwyn,
Rydd ofod i’n traddodiad
A rhin i glust gwerin gwlad,
Graenus seiniau gwerinol  
Ddaw a naws hen ddoe yn ôl.

Ym Maldwyn bywyn ein bod  
Mae hanes deuawd hynod,  
Y Sipsi a Nansi wnaeth
Eu halaw’n ysbrydoliaeth  
I lywio Noson Lawen  
A chyhwfan lluman llên.

Felly, am dre Llanfyllin
Bydd cysur o rannu’r rhin,
Gymru hoff digymar ach
Daw llanw bywyd llawnach,
Bu nawdd wnaeth ein hybu ni
Yn nawns byseddu Nansi.

Huw Nant