Home > Cerdd Dant Festival > Aberystwyth a'r Fro 2025
Aberystwyth a'r Fro 2025
Translation Coming Soon
Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a'r Fro
8fed o Dachwedd 2025
Mynediad i'r Wyl:
Oedolion: £10.00 | Plant am ddim
Rhestr Testunau a Rhaglen y Dydd
Rhestr Testunau (PDF)
Rhaglen y Dydd (PDF)
Llywydd y Dydd: Eleri Roberts a Trefor Puw
Llywyddion Anrhydeddus: Robin Huw Bowen, Bethan Bryn, Rhidian Griffiths, Rhiannon Ifans, Vernon Jones, Jeremy Turner
Arweinyddion Llwyfan: Sara Gibson, Nest Jenkins, Lowri Steffan
Swyddogion y Pwyllgor Gwaith
Cadeirydd: Rocet Arwel Jones
Trysorydd: Endaf Edwards
Ysgrifennydd: Helen Medi Williams
Ffôn: 07773 933886
e-bost: helenmedi68@icloud.com
Trefnydd yr Ŵyl: John Eifion
Ffôn: 07985 200677
e-bost: gwylcerdddant@gmail.com
Cywydd Croeso
Ni bu Dachwedd heb duchan
Oer y gwynt yn mygu’r gân;
Ni bu hirlwm heb erlid
Gemau lliw gan gwmwl llid;
Heb awen, ni bu aeaf
Na ddaeth â hiraeth am haf.
Ni bu Aber nas heriwyd
Gan dwrw’r penllanw llwyd
Yn boddi’r tir, fesul ton
Farus, a’r dyddiau’n fyrion,
A stormydd newydd yn hel
Yn gerrynt dros y gorwel.
Ond daw’r awen eleni,
Bwrw’n ôl wna’n Haber ni.
A down, un haid ohonom,
Parhawn, fel drudwns y Prom,
 hud y ddawns, doed a ddêl,
A hi’n Dachwedd, rhaid dychwel –
Troi’r rhod â thafod a thant,
Ac i felys gyfeiliant
Neuadd lawn, fe gawn i gyd
Ailfeddu’r hen gelfyddyd.
Trown Dachwedd yn rhyfeddod
Hirddydd haf – mae’r Ŵyl ar ddod!
Huw Meirion Edwards