Home > Cerdd Dant Festival > Caerdydd 2023

Caerdydd 2023


Translation coming soon...

Coleg Caerdydd a’r Fro, Caerdydd

11eg o Dachwedd 2023

Mynediad i’r Ŵyl:

Oedolion: £10.00; Plant: £5.00

Rhestr Testunau

Rhestr Testunau Gŵyl Cerdd Dant Caerdydd 2023


Llywydd y Dydd: Delyth Medi Lloyd

Llywyddion Anrhydeddus: R. Alun Evans, Rhiannon Evans, Non Gwilym a Sara Gwilym (er cof am Carys Puw Williams), Nia Roberts, Roy Saer

Arweinyddion: Sara Gibson, Manon Arianrhod Hammond, Hywel Jones, Mali Ann Rees

Swyddogion y Pwyllgor Gwaith

Cadeirydd: Elen Rhys

Trysorydd: Abigail Sara Williams

Ysgrifennydd: Glenys Llewelyn

Ffôn: 07970 411697
e-bost: glenys.llewelyn@sky.com


Trefnydd yr Ŵyl: John Eifion

Ffôn: 01286 872488 / 07985 200677
e-bost: trefnyddgcd@yahoo.com

Cywydd Croeso

Un gân fach sydd gennyf i,
A hawdd, fan hyn, ei boddi
O dan holl leisiau’n dinas,
Ceir hwyr, a seirenau cras:
Un alaw ymhlith llawer,
Rhyw dri sill rhwng cordiau’r sêr.

Mae angen croesacenion.
Rhoi ail wynt a wna’r ŵyl hon,
bywhau’r dref. Os bu ryw dro
rywun a fedrai ieuo
dwy diwn groes a gwneud un gri
ohonynt, ni yw’r rheini.

 

 

Er hyn, ar gorneli’r stryd
fyrfyfyr, mae’n fyw hefyd,
yn tiwnio cytgord tyner    
rhwng yr hen-dŵs a blŵs blêr
ceinciau’r tai. Drwy’r concrit hyll
mae ’ma gân ’fynn ymgynnull.        

Dewch â’ch her o gân werin,
a’r tair rhes, geiriau i’w trin,
a chôr mawr i chwarae mig
â riffiau trwm y traffig,
i forio’r iaith a’i chân frau
yn sŵn dinas sy’n dannau.                

Llŷr Gwyn Lewis