Home > Cerdd Dant Festival > Tlysau Parhaol yr Ŵyl

Tlysau Parhaol yr Ŵyl


Cwpan Elwyn yr Hendre

Cwpan Elwyn yr Hendre


Grŵp Cerdd Dant dan 25 oed

Cwpan arian, sylweddol ei maint.
Cyflwynwyd hi er cof amdano gan Gôr Bro Gyfeiliog – Côr y bu’n arweinydd arno.
Ganwyd Elwyn Davies yng Nghwm Pennant, plwyf Llanbrynmair. Datblygodd ei ddiddordeb mewn Cerdd Dant ar ôl mynychu dosbarthiadau Canu Penillion o dan ofal Ted Richards, Carno. Yn ddeg ar hugain oed, dechreuodd osod ei hun, ac yn dilyn hynny cafodd yrfa lwyddiannus fel unawdydd, gan gipio’r prif wobrau yn ein gwyliau cenedlaethol. Meddai ar ddawn naturiol i ganu ar y pryd, a byddai’n aml iawn ar y brig mewn cystadlaethau canu cylch.

Cwpan Ysgol Llanddoged

Cwpan Ysgol Llanddoged


Parti Gwerin Oedran Cynradd

Cyflwynwyd y Cwpan hwn gan yr ysgol yn dilyn anffawd a ddigwyddodd ir Tlws gwreiddiol – plat a wnaed yn Wrecsam o hen grochenwaith o Gymru, sef Buckleyware, gyda chynllun ysgafn, lliwgar a chyfoes i gynrychioli ein celfyddyd.

Ysgol hapus yn y wlad yw hon, lai na dwy filltir o Lanrwst. Maer plant, au hathrawon, yn frwd dros bopeth Cymraeg a Chymreig, ac yn cystadlu – ac ennill - yn gyson yn ein gwyliau cenedlaethol, yn ungolion ac fel parti a chôr.

Cwpan Coffa Dewi Mai o Feirion

Cwpan Coffa Dewi Mai o Feirion


Unawd Cerdd Dant dros 21 oed

Cwpan arian, sylweddol ei maint, ar blinth.
Brodor o Flaenau Ffestiniog, a newyddiadurwr wrth ei alwedigaeth, oedd David J Roberts. Ef a fu’n bennaf gyfrifol am sefydlu’r Gymdeithas Cerdd Dant ym 1934/5, ac iddo ef y rhoddwyd y dasg o baratoi rheolau gosod a chanu Cerdd Dant. Fel newyddiadurwr, chwaraeodd ran allweddol yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r grefft, gan ysgrifennu erthyglau a cholofnau yn ‘Y Cymro’. Gosodai bob amser mewn sol-ffa, ac ‘roedd ei lawysgrifen yn nodedig.

Cwpan Coffa Hugh Jones

Cwpan Coffa Hugh Jones


Unawd Telyn Blwyddyn 12 a than 25 oed

Cwpan arian, sylweddol ei maint, ar blinth.
Amaethwr yn byw yn Nhrefor Wen, Llansadwrn Ynys Môn, oedd Hugh Jones – gŵr a oedd yn ymddiddori mewn eisteddfod, cân a thelyn, ac fe sicrhaodd fod ei fab yn cael telyn. Fel hyn y canodd Cynan iddo, yn ei benillion ‘Ffrind y Delyn’:

Fe ganai yr ehedydd
Am ŵr a hoffai gân
A miri maes eisteddfod,
A thelyn Cymru lân.
Gŵr a ofalodd, cyn ei fynd,
Y caffai honno’i fab yn ffrind.

Cwpan Ysgol Dyffryn Conwy

Cwpan Ysgol Dyffryn Conwy


Deuawd Cerdd Dant Blwyddyn 12 hyd at 21 oed

Tarian Goffa Dafydd o Feirion

Tarian Goffa Dafydd o Feirion


Côr Cerdd Dant Agored

Tarian o faint sylweddol mewn pren gweddol olau.
Ganwyd Dafydd Roberts ym Mryngath, Cwm Abergeirw ger Dolgellau – ardal lle’r oedd traddodiad cryf, a bri ar ganu a barddoniaeth. Bu’n ddatgeinydd poblogaidd fel unawdydd ac fel deuawdydd gyda’i wraig. Byddai ef a’i briod yn cyd-lunio gosodiadau, a dyma’r bartneriaeth a sefydlodd Barti Meibion Prysor, sydd erbyn hyn o dan arweinyddiaeth Iwan Morgan.

Tarian Goffa Ioan Dwyryd

Tarian Goffa Ioan Dwyryd


Parti Cerdd Dant Agored

Tarian sylweddol ei maint, gyda lle i roi enwau enillwyr.

Gŵr o Flaenau Ffestiniog, a ddaeth o dan ddylanwad David Francis (y Telynor Dall o Feirion), Dewi Mai o Feirion ac eraill. Yn dilyn hyn, daeth Cerdd Dant yn rhan bwysig o’i fywyd. ‘Roedd yn osodwr a oedd bob amser yn ystyried ansawdd a chwmpas llais ei lu disgyblion (hyn yn eithaf anarferol yn ei gyfnod!). Un arall o sylfaenwyr y Gymdeithas Cerdd Dant, datgeinydd a beirniad cenedlaethol, a hyrwyddwr yr hen grefft o ganu cylch. Magodd ei blant amryddawn – Llew, Eleanor a Gwenllian – yn y grefft. Gŵr di-droi’n ôl ei farn a’i ddaliadau.

 

Tarian Huw T Edwards

Tarian Huw T Edwards


Unawd Telyn Blwyddyn 6 ac iau (Cynradd)

Gŵr a oedd yn gysylltiedig a’r Undeb Trafnidiaeth a Gweithwyr, ac a fu’n byw yn Sychtyn, Sir y Fflint. Gŵr diwylliedig a oedd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth, ac wyresau iddo yw Eleri Huws, Talybont – athrawes a thelynores, a Sioned Williams, Llundain – y delynores ryngwladol. Rhoddodd Huw T Edwards lawer o anogaeth i’r ddwy.

 

Tlws Beti a Carys Puw

Tlws Beti a Carys Puw


Unawd Cerdd Dant Oedran Cynradd

Llun - Yr Arenig Fawr.
Geiriau: William Morris.
Artist (Cyfrwng cymysg): Leah Jones, Llandegla.
Tlws i gofio’n annwyl am deulu Cynythog Bach, Llidiardau, Y Bala – eu rhieni Caradog ac Anne Pugh, a’u brawd Bili. Caradog oedd un o sefydlwyr y Gymdeithas Cerdd Dant, ac ‘roedd yn enillydd ar ddawns Step y Glocsen, ond yn bennaf, cyfrannodd ef a’r teulu yn helaeth at ddatblygiad Cerdd Dant – y tad yn hyfforddi partїon ac unigolion, gydag Anne yn cyfeilio iddo. Bu’r teulu’n cynnal cyngherddau a nosweithiau llawen, a’r plant, fel eu tad, yn unawdwyr ac yn canu deuawdau a thriawdau hefyd. Bu hwythau, fel eu tad, yn enillwyr cenedlaethol. Fel Caradog, mae Beti a Carys wedi hyfforddi sawl cenhedlaeth o unigolion, partїon a chorau, ac fel y bu eu tad, yn feirniaid yn ein gwyliau cenedlaethol. Cynnyrch dwy ferch a phedair wyres Caradog ac Anne Pugh yw’r gyfrol ‘Ceinciau Cynythog’.

 

Tlws Coffa Dic Jones

Tlws Coffa Dic Jones


I hyfforddwr y Côr Cerdd Dant buddugol

Dyluniad cywrain dros ben o delyn wedi’i amgylchynnu â phlethyn o bren ar blinth bas.
Cyflwynwyd er cof amdano am y tro cyntaf yng Ngŵyl Cerdd Dant Porthcawl, 2015. Erbyn hyn, mae bocs unigryw i ddiogelu’r Tlws, wedi’i ddylunio’n gelfydd, a’i greu gan Elfyn Roberts, Bethesda.

 

Tlws Coffa Elliw Llwyd Owen

Tlws Coffa Elliw Llwyd Owen


Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 7 – 11

Plat fechan o grochenwaith.
Geiriau: Geraint Lloyd Owen.
Crochenydd: Buddug.
Cyflwynwyd y plat hyfryd hwn er cof am Elliw gan Gôr Seiriol. Bu Elliw yn gystadleuydd, ac enillydd, cyson yn ein gwyliau cenedlaethol – Cerdd Dant a Chanu Gwerin – hyd nes i gystudd hir ei llethu. Mae’r cwpled ar y plat yn datgan y tristwch o’i cholli:
 ‘Elliw, mor wag o’th golli
 yn awr yw’n llwyfannau ni’.

Tlws Coffa Gilmor Griffiths

Tlws Coffa Gilmor Griffiths


Cyfansoddi Cainc Cerdd Dant

Dyluniad cywrain o delyn mewn pres a phren.

Hannai Gilmor Griffiths o Rosllannerchrugog a bu’n athro Cerdd hynod o frwdfrydig yn Ysgol Glan Clwyd, lle y bu ei ddylanwad ar ei ddisgyblion yn bell-gyrhaeddol iawn. ‘Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn Cerdd Dant, a bu’n Llywydd a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas, a hefyd yn olygydd cerddorol Allwedd y Tannau. Heb os, ei brif gyfraniad i fyd Cerdd Dant yw’r holl geinciau gsod a gyfansoddodd, megis ‘Dyffryn Maelor’, ‘Gallt Derw’ a ‘Gelliwig’ – ceinciau sydd wedi hen ennill eu plwyf oherwydd y pleser a geir o osod arnynt. Cyhoeddodd lyfr o’i geinciau o dan y teitl ‘Gilmora’.

Tlws Coffa L. E. Morris

Tlws Coffa L. E. Morris


Parti Cerdd Dant Oedran Cynradd

Telyn fechan hardd o arian yn sefyll ar blinth o lechen, gyda phren ynghlwm er mwyn rhoi enwau enillwyr.
Dyluniwyd a chynhyrchwyd gan John Price, Machynlleth.
Cyflwynwyd y tlws hyfryd yma gan Haf Morris er cof am ei mam. Yn enedigol o Lanfachreth, Dolgellau, rhoddodd Mrs Morris flynyddoedd o amser gwirfoddol i hyfforddi plant, ieuenctid ac oedolion ym myd Cerdd, Cerdd Dant, Canu Gwerin a Llefarau hyd at ganol yr 80au yn ardaloedd Corris, Aberangell a Thrawsfynydd. Mewn gwerthfawrogiad o hynny, dyfarnwyd iddi Fedal Goffa TH Parry Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, 1988.

Tlws Coffa Lowri Morgan

Tlws Coffa Lowri Morgan


Deuawd Cerdd Dant Blwyddyn 7-11 (Uwchradd)

Rhan uchaf telyn fechan o arian wedi’i osod ar blinth o bren.
Cyflwynwyd y tlws yma gan gyfeillion a chydweithwyr Lowri – merch ifanc o ardal Porthmadog a dorrwyd i lawr ym mlodau ei dyddiau – ac athrawes ymroddgar gyda diddordeb brwd yn y traddodiadau Cymreig. Mae’r symboliaeth yn y dyluniad yn cynrychioli’r ‘delyn a dorrwyd’.

Tlws Coffa W. H. a Gwen Pugh

Tlws Coffa W. H. a Gwen Pugh


Parti Cerdd Dant Oedran Uwchradd

Tlws o wneuthuriad metel ar blinth pren.
Hannai y ddau fel ei gilydd o ardal Dolgellau, (Llanfachreth, Abergeirw a Rhydymain), ond bu iddynt symud i Gastell Hen, Parc, Y Bala, lle y bu’r ddau yn cynnal fflam Cerdd Dant ar hyd eu hoes, gan hyfforddi to ar ôl to o ddatgeinwyr. Daeth y ddau i enwogrwydd fel deuawd Cerdd Dant drwy gynhyrchu record a oedd ymysg y rhai cyntaf o rai ‘78’. ‘Roedd W. H. Pugh yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Cerdd Dant, a throsglwyddodd y ddau ohonynt eu dawn ym maes Cerdd Dant i’w merched – Beti ac Elinor, a’r mab, Dan.

Tlws Côr Aelwyd Caerdydd

Tlws Côr Aelwyd Caerdydd


Grŵp Llefaru Agored

Tlws Dafydd a Mairwen Roberts

Tlws Dafydd a Mairwen Roberts


Triawd / Pedwarawd Cerdd Dant

Llun sylweddol iawn ei faint, a hardd dros ben, mewn ffrâm o bren. Cyflwynwyd er cof am eu rhieni gan y plant, sef John a Gwenan.
Un o ‘gogie’ Mawddwy oedd Dafydd Roberts – un o deulu’r telynor dall o Fawddwy (Dafydd Roberts). Rhoddodd y teulu hwn oes i hybu’r grefft. Meddai Dafydd ar lais swynol iawn, ac enillodd lawryfon cenedlaethol fel unawdydd, aelod o driawd/pedwarawd a pharti. Daeth Mairwen i’r Dinas o Lundain, dysgodd ganu’r delyn, a dyna ddechrau partneriaeth oes a gynhyrchodd lu o lwyddiannau i unigolion a Chôr Merched Uwchllyn. Bu’r ddau hefyd yn Drysoryddion i’r Gymdeithas Cerdd Dant am flynyddoedd.

Tlws Selwyn a Neli Jones

Tlws Selwyn a Neli Jones


Parti Gwerin Agored

Tlws o bren, ar ffurf telyn ac ar blinth pren gyda lle i roi enwau enillwyr.  
Selwyn yn wreiddiol o Abercegir, ger Machynlleth, ac yn hen gyfarwydd â’r pethau gorau yn ein diwylliant. Neli yn hannu o Bontrhydfendigaid, ac mae’r ddau wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’r ardal honno dros gyfnod maith drwy fod yn gyd-ysgrifenyddion Eisteddfod Teulu James, Pantyfedwen.

Tlws Teulu’r Fedw

Tlws Teulu’r Fedw


Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 12 hyd at 21 oed

Tlws pren yn cynrychioli tair elfen Cerdd Dant: llyfr (barddoniaeth), nodau (cyfalaw), a thelyn.
Mae gwreiddiau Teulu’r Fedw yn ddwfn ym Mro Uwchaled. Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i fferm Y Fedw, Ysbyty Ifan. ‘Roedd y tad, Edwin Roberts, wedi’i drwytho yn y grefft o ganu gyda’r tannau, ac yn awyddus i’w ddwy ferch, Ann ac Elsbeth, gael dysgu’r grefft hefyd. Yn eu tro, bu iddynt hwy ennill eu plwyf fel unawdwyr a deuawdwyr, ac yna daeth eu tro hwythau i hyfforddi a gosod i’r drydedd genhedlaeth, sef Teulu Hendre Cennin  (plant Ann), a Catrin Alwen a Einir Haf (merched Elsbeth). Erbyn hyn, mae’r bedwaredd genhedlaeth yn cystadlu – ac ennill – yn gyson yn ein gwyliau cenedlaethol, a phrin bod Gŵyl Cerdd Dant yn digwydd heb ymddangosiad o leiaf un o’r teulu hwn.

Tlws Yr Herald Gymraeg

Tlws Yr Herald Gymraeg


Unawd Telyn Blwyddyn 7-11 (Uwchradd)

Telyn fechan hardd o arian yn sefyll ar blinth, a lle i osod enwau enillwyr arno.

 

Tlws Ysgol Glanaethwy

Tlws Ysgol Glanaethwy


Parti Gwerin Uwchradd

Tlws unigryw, gyda’r llythrennau YG wedi’u gwau’n gelfydd â’i gilydd mewn resin, ar blinth o lechen.
Cyflwynwyd y tlws hwn gan sefydlwyr Ysgol Glanaethwy, sef Cefin a Rhian Roberts, dau sydd wedi dylanwadu’n fawr, ym myd drama, llefaru a cherddoriaeth, ar genedlaethau o ieuenctid bellach. Mae’r ysgol wedi bod yn gyson ei chefnogaeth i Gerdd Dant a Chanu Gwerin, gan gystadlu fel unigolion, partїon a chorau – ac ennill – lawer gwaith yn ein gwyliau cenedlaethol.