Cartref > Cwrs Gosod a Chyfeilio a Llogi Telynau > Llogi Telynau
Llogi Telynau
2025-26
Mae gan y Gymdeithas 25 telyn ar gael i’w llogi’n flynyddol – un ar bymtheg o delynau 40 tant, un delyn 46 tant ac 8 telyn lifer. Bydd y ffurflenni cais ar gael ar-lein o'r 1af o Fawrth a rhaid eu cwblhau a'u dychwelyd erbyn 31ain o Fai 2025 gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu yn ystod Mehefin 2025. Mae'r cyfnod llogi yn rhedeg o fis Medi i fis Awst i gyd-fynd â'r flwyddyn academaidd.
-
Cyfnod benthyg y delyn fydd un mis ar ddeg (11 mis) – 1af o Hydref i 31ain o Awst.
-
Tâl benthyca telyn bedal (46 tant) fydd £575.00 yn cynnwys gorchudd trwchus ac at ddefnydd tu allan i’r cartref mwy na dim ond arholiad. Bydd rhaid cyflwyno tystiolaeth eich bod wedi yswirio’r delyn eich hunain.
-
Tâl benthyca telyn bedal (40 tant) fydd £475.00 yn cynnwys gorchudd trwchus ac at ddefnydd tu allan i’r cartref mwy na dim ond arholiad. Bydd rhaid cyflwyno tystiolaeth eich bod wedi yswirio’r delyn eich hunain.
-
Tâl benthyca telyn di-bedal fydd £275.00 yn cynnwys gorchudd trwchus ac at ddefnydd tu allan i’r cartref yn fwy na dim ond arholiad. Bydd rhaid cyflwyno tystiolaeth eich bod wedi yswirio’r delyn eich hunain.
-
Mae modd talu’n llawn ac mae’r swm yn daladwy o fewn mis o dderbyn y gytundeb neu mae modd talu trwy archeb banc misol fydd yn cynnwys blaendal ac yna symiau penodol dros 10 mis. Mae’n rhaid talu’r blaendal o fewn mis o dderbyn y gytundeb.
-
Bydd y sawl a enwir yn adran2 ar y ffurflen gais yn gyfrifol am gadw'r delyn yn ddiogel. Ni chaniateir cadw’r delyn mewn unrhyw leoliad arwahan i’r cyfeiriad a nodir yn adran 2 ar y ffurflen gais.
-
Rhaid cadw'r delyn mewn cyflwr priodol - adnewyddu unrhyw dannau a ddigwydd dorri gyda thannau coludd yn unig; a'i chyflwyno'n ôl i'r Gymdeithas yn yr un cyflwr ag y'i derbyniwyd. Ni ddylai’r Benthyciwr nac unrhyw berson ar ran y benthyciwr newid unrhyw dannau os nad ydynt yn gwybod yn iawn sut i newid y tannau. Mae’r Gymdeithas yn argymell fod y tannau yn cael eu newid gan athro telyn proffesiynol neu gan werthwr telynau os nad yw’r Benthyciwr yn gwybod sut i newid y tannau.
-
Bydd y sawl sydd yn derbyn y delyn yn cytuno i wneud cynnydd boddhaol drwy gael gwersi cyson yn ystod tymor y benthyciad. At ddefnydd y Benthyciwr yn unig mae’r delyn ac ni chaniateir i unrhyw unigolyn arall gael defnydd o’r delyn.
-
Bydd hawl gan unrhyw berson a awdurdodir gan y Gymdeithas i weld neu archwilio'r delyn ar amser sy'n gyfleus i'r ddwy ochr.
-
Rhaid hysbysu'r Swyddog Telynau yn ddi-oed os digwydd unrhyw ddamwain neu ddifrod, ac eithrio tannau'n torri, i'r delyn. Ni ddylid ar unrhyw gyfrif ymyrryd â'r peirianwaith.
-
Ni chaniateir ar unrhyw gyfrif roddi ei benthyg, ei hurio, neu ei gwerthu i unrhyw berson neu bersonau eraill. Caniateir mynd ar delyn o'r cartref ond nid at ddefnydd na phwrpas masnachol. Cyfrifoldeb y person sydd â gofal am y delyn yn ystod cyfnod y benthyciad fydd hynny - rhaid cymryd yswiriant ychwanegol a phriodol i'r pwrpas yma.
-
Bydd gan y Gymdeithas hawl i alw y delyn yn ôl unrhyw adeg os bernir fod un o’r rheolau uchod heb eu cadw. I’r perwyl hwn y mae’r Benthyciwr yn rhoi trwydded i’r Gymdeithas gael mynediad i gartref y Benthyciwr ar gyfer casglu’r delyn ar unrhyw gyfnod.
-
Cytuna’r Benthyciwr i yswirio’r delyn gyda pholisi telyn unigol neu drwy bolisi cartref. Bydd rhaid i’r Benthyciwr ddarparu copi o’r polisi hwn cyn i’r delyn gael ei ddarparu. Dylai’r polisi fod ac isafswm o £8,000.00 ac fe ddylai’r polisi sicrhau unrhyw ddifrod i’r delyn trwy ddamwain.
-
Os bydd amgylchiadau’r Benthyciwr yn newid yn ystod y cyfnod llogi am ba bynnag reswm neu’i gilydd yna bydd rhaid talu’n llawn am y cyfnod benthyg sy’n weddill yn unol â’r gytundeb a thalu unrhyw gostau eraill ychwanegol gan y Gymdeithas.
Ffurflen Gais:
Am fwy wybodaeth cysylltwch â John Eifion a Marina Jones, Swyddogion Gweinyddol, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru ar unai 07985 200677 neu telynauccdc@gmail.com.