Cartref > Gŵyl Cerdd Dant > Llanelli a'r Cylch 2019
Llanelli a'r Cylch 2019
Theatr y Ffwrnes Llanelli
Tachwedd 9fed, 2019
Llywydd y Dydd: Huw Edwards
Llywyddion Anrhydeddus: Garry Nicholas, Iris Thomas
Arweinyddion: Heledd Cynwal, Mari Grug, Garry Owen
Swyddogion y Pwyllgor Gwaith:
Cadeirydd: Catrin Hughes
Is-Gadeirydd: Deris Williams
Trysorydd: Ffion Jones
Ysgrifennydd: Menter Gwendraeth Elli
Rhestr Testunau
Cywydd Croeso
Bu unwaith dinc sosbenni
yn symbal drwy’n hardal ni,
drag goch oedd y dre i gyd,
daear ffwrneisi diwyd
yn creu fflamau’r tanau tun
â chân ym mhob gwreichionyn.
Ac yn awr rhyw gân arall
a ddaeth i’r dre yn lle’r llall;
cychwynnwch a chyrchwch chi -
‘r holl wlad - i dre Lliedi,
nes i Forlais o fwrlwm
ddihuno cerdd yn y cwm.
Dewch chi, y wlad,
a chewch lais hen delyn Afon Dulais
eto i’ch hudo wedyn
â’i thonnau fel tannau tyn,
a’i heddiw’n para’n ddiwyd,
a’r Sosban yn gân i gyd.
Tudur Dylan Jones