Cartref > Y Gymdeithas > Hanes Cerdd Dant > Yr Ugeinfed Ganrif

Yr Ugeinfed Ganrif


Hanner Cyntaf yr 20fed Ganrif

Pan gyhoeddodd Telynor Mawddwy ei werslyfr cerdd dant Y Tant Aur ym 1911, fe werthwyd y copïau i gyd o fewn dim o dro. Mae’n amlwg felly fod yna ddiddordeb yn yr hen grefft ym mhob rhan o’r wlad.

Ond ar yr un pryd, mae’n ymddangos fod cryn lawer o ddadlau ac anghytuno ynglŷn â gwahanol ddulliau o osod, pa geinciau oedd yn addas, ac yn y blaen.

Roedd diffyg cyfarwyddiadau a rheolau pendant yn creu ansicrwydd, a’r diffyg hwn a arweiniodd at sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dant ym 1934.

Un o’r ffigurau mwyaf dylanwadol oedd y telynor dall, David Francis.

Dywedir mai Meirionnydd oedd crud cerdd dant, a phan restrwn yr holl unigolion oedd yn weithgar yno, fe welwn pam: David Francis, William Morris Williams a Ioan Dwyryd ym Mlaenau Ffestiniog, Dewi Mai o Feirion, Caradog Puw, W.H. Puw a Watcyn o Feirion yn ardal Y Bala, J.Breese Davies a Thelynor Mawddwy yn Ninas Mawddwy, Gwyndaf Evans yn Llanfachreth, William Edwards yn Rhydymain, Tom Jones ac Einion Edwards yn Llanuwchllyn, Emrys Jones, Llangwm ac yn y blaen.

Ond fe chwaraeodd datgeinwyr a thelynorion eraill ran bwysig yn natblygiad y grefft. Er enghraifft, fe wnaeth Llyfni Huws a’i deulu (o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol) lawer i hybu’r traddodiad yn Ne Cymru, ac fe wnaeth y Brodyr Francis eu rhan hwythau yn Nyffryn Nantlle.
Dewi Mai o Feirion

Un peth a nododd Dewi Mai o Feirion oedd yr angen i wella safonau cerddorol y grefft – unwaith eto yn adleisio’r angen a deimlodd Telynor Mawddwy gryn chwarter canrif ynghynt.

Cafwyd ymateb i’w gri ac yn Eisteddfod Machynlleth ym 1937 fe enillwyd gwobr am gasgliad o geinciau a gosodiadau gan gerddor proffesiynol, Dr Haydn Morris o Lanelli.

Tyfodd llawer o alawon Haydn Morris yn rhai cyfarwydd iawn.

Sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dant ym 1934 oedd y digwyddiad mwyaf tyngedfennol a fu yn hanes y grefft erioed, oherwydd fe arweiniodd at dwf a datblygiadau mawr. Aethpwyd ati i dynnu rhestr o reolau unwaith ac am byth.

Nid mater bach oedd hynny, a bu llawer o drafod a dadlau. Yn wir, ni chafodd yr holl reolau eu pennu’n derfynol hyd at y chwedegau. Cwynai rhai ar y pryd fod rheolau fel hyn yn fwy tebyg o fygu canu gyda’r tannau yn hytrach na’i hyrwyddo, ond yr effaith bwysicaf yn y pen draw oedd dileu unrhyw ansicrwydd, a chreu trefn allan o anhrefn.

Ail Hanner yr 20fed Ganrif

Un o gewri’r byd cerdd dant yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a phrif hanesydd y gymdeithas, yw Aled Lloyd Davies. Yn ei lyfr Hud a Hanes Cerdd Dannau mae’n nodi 1947 fel dechrau cyfnod o adfywiad gwirioneddol.

Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd yr Ŵyl Cerdd Dant gyntaf yn Felinheli. “O’r dyddiad hwnnw y gwelwyd y Gymdeithas yn datblygu, yn tyfu mewn aelodaeth a dylanwad ac yn ehangu gorwelion ei diddordeb,” meddai. Cynhaliwyd cyrsiau penwythnos ac ysgolion haf, ac erbyn dechrau’r wythdegau roedd gan y Gymdeithas 850 o aelodau.

Roedd cyhoeddi Llawlyfr Gosod Aled Lloyd Davies ym 1983 yn ddigwyddiad o’r pwys mwyaf – hwn oedd y llawlyfr cerdd dant mwyaf trylwyr a manwl a gyhoeddwyd erioed yn hanes y grefft.

Bu newid mawr mewn cerdd dant yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ar ddechrau’r ganrif, crefft i unigolion yn unig oedd hi. Yna dechreuwyd ffurfio deuawdau a phartïon bychain. Mentrwyd ymhellach i faes triawdau a phedwarawdau. Yna, o’r 50au ymlaen fe ymddangosodd corau cerdd dant am y tro cyntaf. Nid oedd pob gwyl yn cynnwys y gystadleuaeth yn eu rhestr testunau, ac ar y cyfan, creadur prin a chymharol fychan o ran nifer ei aelodau oedd y côr cerdd dant yn y cyfnod hwn.

O’r 70au ymlaen, fodd bynnag, tyfodd cystadleuaeth y corau i fod yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd, ac nid cyd-ddigwyddiad yw mai hwn oedd y cyfnod mwyaf llewyrchus erioed o ran nifer cystadleuwyr a chynulleidfaoedd.. Yn y pumdegau, roedd hi’n dal yn bosibl cynnal yr Ŵyl Gerdd Dant mewn neuaddau pentref bychain fel un Penybontfawr, ond bu raid chwilio am lefydd mwy yn fuan iawn. Dechreuodd yr ŵyl gael sylw gan y cyfryngau radio a theledu, ac o’r nawdegau ymlaen bu S4C yn ei darlledu’n flynyddol.

Datblygiad pwysig arall fu’r holl geinciau newydd a gyfansoddwyd, o’r 70au ymlaen yn enwedig. Golygodd hyn fod modd ymestyn posibiliadau’r grefft ymhellach a rhoi llawer mwy o ddewis i osodwyr. Y cyfansoddwyr mwyaf toreithiog yn y maes hwn yw Bethan Bryn, Gwennant Pyrs, Menai Williams, y diweddar Gilmor Griffiths, J. Eirian Jones, Owain Siôn, Nan Elis, Mona Meirion, Dafydd Huw Jones, Ceinwen Roberts, Eirlys Gravelle, Catherine Watkin, Morfudd Maesaleg, Mair Carrington Roberts ac Eleri Owen.

Law yn llaw â’r cynnydd hwn, bu sawl ymgais hefyd i ymestyn ffiniau cerdd dant, i arbrofi ac i ddatblygu. Un o’r rhai a gafodd fwyaf o argraff oedd Gareth Mitford Williams, brodor o Fôn a ddaeth yn hyfforddwr ar Gôr Cerdd Dant Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, ar ddechrau’r wythdegau.

Gyda’i osodiadau newydd a beiddgar (a bwriadol ansoniarus ar brydiau) fe ysgydwodd y byd cerdd dant i’w sail ac achosi dadlau tanllyd. Ysywaeth bu Gareth farw’n ifanc iawn.

Ond fe wnaeth ei farc ac fe arhosodd ei ddylanwad. Aeth pobl fel Bethan Bryn ati i gyfansoddi ceinciau oedd yn llawer mwy cyfoes, amryw ohonynt yn cynnwys elfennau jazz, a bu arbrofi cyson gyda gosod darnau o ryddiaith.

Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, mae’n anodd rhagweld i ba gyfeiriad y bydd cerdd dant yn mynd. Teimla rhai fod yr arbrofi wedi cyrraedd ei ben draw ac na ellir mynd lawer pellach; teimla eraill fod angen ail-ymweld yn amlach â’r gwreiddiau a gwneud lle hefyd i’r math mwy ysgafn ac anffurfiol o ganu penillion.
Nansi Richards, telynores Maldwyn

Mae’r grefft o reidrwydd ynghlwm wrth yr iaith Gymraeg ei hun, ac felly mae tynged un yn dibynnu ar y llall.

Mae’n dibynnu hefyd ar awydd y Cymry eu hunain i warchod eu treftadaeth ac i sefyll yn erbyn llif dylanwadau estron yr oes fodern.

Y Newid a Fu

Y prif wahaniaethau rhwng cerdd dant heddiw a cherdd dant yr oes a fu (sef hyd at flynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif):

  1. Dim ond unigolion oedd yn canu cerdd dant ers talwm – doedd dim deuawdau, triawdau, partion na chorau.
  2. Crefft fyrfyfyr oedd hi: doedd fawr neb yn cyfansoddi gosodiad ymlaen llaw a’i ddysgu.
  3. Ar y geiriau yr oedd y pwyslais bron yn gyfangwbl. Bellach rhoddir llawer mwy o bwyslais ar y gerddoriaeth.
  4. Ychydig iawn o ferched oedd yn canu cerdd dant. Erbyn heddiw, merched yw’r mwyafrif.
  5. Roedd hi’n grefft tipyn llai parchus nag ydyw erbyn heddiw, mewn rhai cylchoedd o leiaf!
  6. Nid oedd corff o reolau ar gael a oedd wedi cael sêl bendith unrhyw fudiad neu gynhadledd.
  7. Roedd nifer y ceinciau oedd ar gael i osod arnynt yn llawer llai: dim mwy na tua 50 mewn gwirionedd. Erbyn heddiw mae’r dewis wedi cynyddu i bron i 600.