Cartref > Gŵyl Cerdd Dant > Wyddgrug 2024
Wyddgrug 2024
Gŵyl Aled, Gŵyl Cerdd Dant Yr Wyddgrug
9fed o Dachwedd 2024
Mynediad i’r Ŵyl:
Oedolion: £10.00 Plant am ddim
Rhestr Testunau
Llywydd y Dydd: Bethan Bryn a Mair Carrington Roberts
Llywyddion Anrhydeddus: Beryl Lloyd Davies, Selwyn Evans, Mair Selway, Elwyn P Roberts, Mary Roberts, Goronwy Wynne.
Arweinyddion: Nic Parry, Rhian Parry, Dei Tomos.
Swyddogion y Pwyllgor Gwaith
Cadeirydd: Hywel Wyn Edwards
Trysorydd: Anne Evans
Ysgrifennydd: Carys Gwyn
Ffôn: 07747 615941
e-bost: carysgwyn@btinternet.com
Trefnydd yr Ŵyl: John Eifion
Ffôn: 07985 200677
e-bost: trefnyddgcd@yahoo.com
Cywydd Croeso
Dewch llawn hwyl i Ŵyl Aled!
I’r Ŵyl hon, mae si ar led
am groeso bro Wil Bryan
i chi, efo’ch dawns a chân;
i bawb! Dewch! O! Dewch bob un
i’r Ŵyl ar lannau’r Alun.
I Aled roedd sain telyn
yn dwyn llais i dynnu llun.
Ei swyn ef trwy’n lleisiau ni
wna olyniaeth eleni.
Fe ddaw drwy’r hen alawon
eiriau o liw i’r Ŵyl hon.
Aled ydoedd cyfalaw
celfydd ei ddydd, ac fe ddaw
i lywio’n cyfalawon
heddiw a’u dawns ar hardd dôn;
eu haenau o gynghanedd
cyfrin fydd yn gloywi’n gwledd.
Y llais coeth, llais cyfoethog,
dawn a llais yn denu llog
a thref Daniel yn elwa!
Dewch leisiau a doniau da,
Dewch! Dathlwch, cenwch fel côr
a daw’r iasau yn drysor!
Heddiw ydyw’n traddodiad,
y bore hwn, ei barhad –
oesol a swynol ei sain!
Â’i ddawn euraidd i’n harwain
daw Aled megis dolen
i’w afiaith, i’w waith a’i wên!
Huw Alun Roberts