Cartref > Gŵyl Cerdd Dant > Caernarfon 2026

Caernarfon 2026


Gŵyl Cerdd Dant Caernarfon

14eg o Dachwedd 2026

Mynediad i'r Wyl:

Oedolion: £15.00 | Disgyblion uwchradd a myfyrwyr: £5.00 | Disgyblion cynradd am ddim

Rhestr Testunau

Rhestr Testunau (PDF)

Llywyddion Anrhydeddus: Dafydd Iwan, Mona Meirion, Dafydd Wigley, Elinor Wigley, Menai Williams

Arweinyddion Llwyfan: Ffion Emyr, Liam Evans, Elain Llwyd, Dei Tomos 

Swyddogion y Pwyllgor Gwaith

Cadeirydd: Dafydd Meirion Roberts

Trysoryddion: Carys a Dafydd Williams

E-bost: trysoryddgcdcaernarfon@btinternet.com

Ysgrifennydd: Bethan Williams

Ffôn: 07786 900388
E-bost: bethancwilliams@yahoo.com

Trefnydd yr Ŵyl: John Eifion

Ffôn: 07985 200677
E-bost: gwylcerdddant@gmail.com

Cywydd Croeso

Mae hi’n dre gerdd, mae’n dre gìg. 
Tra’r maes, bydd bob tro’r miwsig,
o’r siantis môr i stori’r 
awen sy’n ein hacen ni.  
Ac alaw fythol gwylan 
yn tiwnio’r gwynt yn nhre’r gân.  

Bu sawl côr ger y Foryd 
a do, mi floeddiwyd o hyd
emynau ar lan Menai, 
a charioci, gan rai.  
Tre roc. Tre broc. Tre llawn bri. 
Tre’r lan. Tre’r ŵyl eleni...  

I dir y daw ar y don
o’u tai y mil partïon; 
daw i’r cei dwrw cywydd
o’r bae, nes cyn hir y bydd 
hen gainc ar dafod hen go’, 
telynau ’Nhwtil heno.

Yn ’dre, dewch i wrando’r dôn,
i stagio ar ostegion
ger y dŵr. A chytgord oes
gewch chi’n Gofi o gyfoes. 
Efo heli’n gyfeiliant,
cyrraedd y doc mae cerdd dant!

Rhys Iorweth