Cartref > Y Gymdeithas > Hanes Cerdd Dant > Y Dechreuadau

Y Dechreuadau


Mae’r grefft o ddatgan barddoniaeth i gyfeiliant telyn, ar ryw ffurf neu’i gilydd, yn mynd yn ôl yn bell iawn yn hanes y diwylliant Cymraeg. Yn anffodus, mae’r union ffurf honno wedi hen fynd ar goll yn niwloedd y gorffennol, ac ni allwn ond dyfalu sut yn union yr oedd canu gyda’r tannau yn swnio ganrifoedd lawer yn ôl. Gwahanol iawn i heddiw, bid siwr. O ddechrau’r ugeinfed ganrif y daw’r recordiadau sain cynharaf o ganu cerdd dant, ac mae hyd yn oed y recordiadau hynny yn swnio’n wahanol iawn i gerdd dant yr unfed ganrif ar hugain.

Ar bapur, nid oes cofnod cerddorol o osodiad cerdd dant hyd at 1839, yn llyfr John Parry (Bardd Alaw), The Welsh Harper – ond nid oes sicrwydd fod y gosodiad hwnnw `chwaith yn adlewyrchiad cywir o’r hyn a glywid ar lafar gwlad.

Mae’r delyn wedi chwarae rhan amlwg yn nhraddodiad cerddorol pob un o’r cenhedloedd Celtaidd. Yr hyn sy’n arbennig ynglyn â’r traddodiad Cymreig efallai yw’r berthynas glòs a ddatblygodd rhwng ein barddoniaeth a’n cerddoriaeth. Mewn cerdd dant, mae’r ddwy elfen yn gwbl annatod. Ar y geiriau y mae’r pwyslais, fodd bynnag: cyfrwng i gyflwyno barddoniaeth yw cerdd dant, a datgan y geiriau yn glir ac effeithiol yw’r nod bob amser.

Credir mai’r un person oedd y telynor a’r datgeiniad ar un adeg – a cheir awgrym fod y person hwnnw, yn aml iawn, hefyd yn fardd. Roedd hi felly yn grefft arbenigol iawn, yn gyfyngedig i lysoedd y tywysogion a’r uchelwyr. Ond wedi i oes aur y tywysogion a’r uchelwyr Cymreig ddod i ben, fe gymerwyd yr awenau o dipyn i beth gan y werin bobl.

Mae sawl cyfeiriad at y grefft o ganu gyda’r tannau i’w gael mewn llawysgrifau o’r Oesoedd Canol ymlaen, er enghraifft y dyfyniad hwn o Lawysgrif Peniarth, tua 1330:

Tri pheth a beir kanmawl kerddawr, nyt amgen: dychmycvawr ystyr, ac odidawc kerddwriaeth, ac eglur datganyat…..Tri anhepgor kerdd ysyd, nyt amgen: medwl digrif, a messureu kerddwryaeth, a thauawt eglur wrth y datkan

(Tri peth sy’n ennyn canmoliaeth i gerddor, sef deunydd llawn sylwedd a dychymyg, cerddoriaeth dda a datganiad eglur….Tri pheth sy’n hanfodol mewn cerdd, sef meddwl dyfeisgar mesurau cerddoriaeth a thafod eglur wrth ei ddatgan)

Yn Statud Gruffydd ap Cynan, llawysgrif o tua 1523 (ond yr honnir iddi gael ei llunio yn oes Gruffydd ap Cynan ei hun, tua 1100), fe geir hyn:

A wedi hynny y dichon atkeiniad….dysgu i blethiadau oll a ffroviad kyffredin ai ostegion a thair ar ddec o brif geinciau ai gwybod yn iawn yn i partiau ac atkan i gywydd gida hwy

(Ac wedi hynny fel all datgeiniad…ddysgu’r holl blethiadau a’r profiad cyffredin a’r tair brif gainc ar ddeg a’u gwybod yn iawn yn eu holl rannau a sut i ddatgan ei gywydd gyda nhw).

Meddai Lewis Morris mewn llythyr at Owen Meyrick ym 1738:

It is a custom in most counties of North Wales (but better preserved in the mountainous parts of Merionethshire &c) to sing to the Harp certain British verses in rhyme (called pennills) upon various subjects. Three or four kinds of them they can adapt and sing to the measures of any of the tunes in use among them, either in common or triple times, making some parts of the tune a symphony….these Penills that our Countrymen… this day sing to the Harp and Crwth, a method of singing perhaps peculiar to themselves

Yr Unfed Ganrif ar Bymtheg